Mae aelodaeth o’r rhwydwaith wedi amrywio dros y blynyddoedd er mwyn cynnig cyfle i bartneriaethau newydd ffurfio, galluogi sefydliadau gwahanol i hybu eu proffil, ac i artistiaid o wahanol wledydd dderbyn cefnogaeth. Mae aelodaeth yn para fel arfer am gyfnod o ryw 2-3 blynedd. Mae’r rhwydwaith yn annog amrywiaeth o ran aelodaeth er mwyn sicrhau bod syniadau, estheteg ac arbenigeddau newydd yn dod yn rhan o’r prosiect, ac er mwyn adfywio a chynnal cydbwysedd o ran profiad. Drwy hynny, y nod yw cefnogi’r gymuned ddawns yn ei chyfanrwydd oddi mewn i’r UE.
Mae partneriaid yn y gorffennol yn cynnwys rhai cyfranwyr nodedig iawn i fyd dawns: Danse à Lille, (Lille), The Place, (Llundain), Tanz Performance Köln (Cologne), La Porta (Barcelona), Tanec Praha (Prâg) an Die Theater Wien (Fiena).
Mae’r coreograffwyr a gafodd eu cyfleoedd rhyngwladol cyntaf drwy gyfrwng y rhwydwaith yn cynnwys: Wayne McGregor, Russell Maliphant, Eddie Ladd, Régis Huvier, Nicole Mossoux & Patrick Bonté, Pedro Pauwels, Myriam Dooge, Branko Potočan, Le Grand Magasin, Virginie Brunelle, Susanna Hood, Thierry Thieû Niang, Yann L’heureux, Roberto Castello, Ambra Senatore a Chris Haring.